Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fwyd

 Dewch inni Fod yn Onest: Mae Gordewdra yn Lladd

 

Dyddiad: Dydd Mercher 23 Mai 2018

Lleoliad: Ystafell Gynadledda A, Tŷ Hywel

 

Yn bresennol:

Aelodau’r Cynulliad

Jenny Rathbone AC              

 

Staff Cymorth Aelod Cynulliad

 Peter Wong                             Uwch Gynghorydd, Swyddfa Jenny Rathbone

Rhanddeiliaid allanol

 Lisa Williams                           Iechyd Cyhoeddus Cymru (Dietegydd) (Siaradwr)

 Andy Glyde                             Ymchwil Canser y DU (Siaradwr)

Clare Bath,                               Ymchwil Canser y DU

 Sarah Thomas                        Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched (NFWI) Cymru

 Maura Matthews                     Arweinydd Atal, Tenovus

 Stephanie Hall                         Cynghorydd ar Ymgyrchoedd Atal, Tenovus

 Nike Arowobusoye                          Iechyd Cyhoeddus Cymru (Ymgynghorydd mewn Meddygaeth                                          Iechyd y Cyhoedd)

 Hugh Jones                             Atal Gwastraff Bwyd (WRAP Cymru)

 Maes Natalie                           Iechyd Cyhoeddus Cymru (Cynghorydd ar Iechyd y Cyhoedd)

 Katie Palmer                           Bwyd Caerdydd

 

 

1)     Cyflwyniad gan  Andy Glyde, Ymchwil Canser y DU, a Chyd-gadeirydd Cynghrair Gordewdra Cymru

Pwyntiau Allweddol:

·         Cyswllt rhwng Gordewdra a Chanser: 2il brif ffactor sy’n achosi canser, ac mae'n gyfrifol am 1,000 allan o 19,000 o fathau o ganser

·         Mae anghydraddoldeb yn chwarae rhan fawr: mae 17% o blant ym Mro Morgannwg yn ordew, o'i gymharu â 32% ym Merthyr

·         Mae'r GIG yn gwario £86M y flwyddyn ar ordewdra

·         Mae’r Alban ymhellach ar y blaen gyda’u strategaeth

·         Bydd Lloegr yn rhyddhau pennod 2 o’r strategaeth gordewdra yn fuan

·         Mae Cancer UK a’r Cynghrair Gordewdra yn cydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar reoleiddio: pethau fel cyfyngu ar hyrwyddo prisiau ar fwyd nad yw’n iach (pecynnau amleitem ac ati). Mae llawer o dystiolaeth i ddangos bod y rhain yn dylanwadu ar ymddygiad - gan arwain at gynyddu nifer y calorïau a brynir. E.e. yn yr Alban: mae 50% o fwyd nad yw’n iach yn cael ei brynu pan fo’n cael ei hyrwyddo, o'i gymharu â 30% o fwyd iach

·         Mae ymchwil o'r Alban a'r Ffindir yn dangos bod agosrwydd siopau cludfwyd poeth yn ein gwneud yn dew!

·         Mae 42% o bobl ifanc yn eu harddegau yn gallu cerdded i siop bwyd poeth o'r Ysgol mewn 2 funud

Beth a ddisgwylir gan awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hyn?

     Mae angen inni gyfyngu ar siopau cludfwyd poeth yn agos at ysgolion

Mae rheoliadau Bwyta'n Iach yn yr ysgol yn dda, ond pa mor dda maen nhw'n cael eu defnyddio? Dim cyfeiriadau ym meini prawf arolygu Estyn

 

Mae marchnata bwyd sothach yn cael effaith enfawr - mae angen ymgyrchu dros gyflwyno trothwy am 9pm

Mae angen i'r Strategaeth yng Nghymru fod yn Feiddgar ac Uchelgeisiol; ond yn sensitif ar stigma a chodi cywilydd am fod yn dew

 Ymgyrch diweddar Cancer UK: Dangosodd arolwg ar ôl yr ymgyrch fod 8% wedi’i gael yn dramgwyddus, ond bod 84% o'r farn ei fod yn effeithiol.  Cynyddodd yr ymwybyddiaeth bod gordewdra’n gysylltiedig â Chanser o 17% i 43%.

 

2)    Cyflwyniad gan Lisa Williams Iechyd Cyhoeddus Cymru (Dietegydd)

Pwyntiau Allweddol:

·         Wedi mapio gwasanaethau yn y GIG i’r llwybr gordewdra

·         Wedi adnabod y bylchau – Yn awr mae angen hyn ym mhob rhan o gymru

·         Dull datblygu cymunedol - hyfforddi hyrwyddwyr lleol

·         Hyfforddiant achrededig

·         Pwysigrwydd Bwyd Doeth am Byth fel rhaglen strwythuredig

·         Mewnbwn dietegol i raglenni Dechrau'n Deg

 

3)    Trafodaeth

 

·          KP - mae categorïau cynllunio yn gwahaniaethu rhwng siopau bwyd sothach a siopau bwyd eraill mewn rhannau eraill o'r DU - ond yng Nghymru maen nhw i gyd yn perthyn i’r un categori, sef A3, felly mae angen i ni ystyried gwahaniaethu ym maes ardrethi busnes

·         Ymarfer mapio Caerdydd wedi'i wneud (i'w ryddhau)

·         Cynnydd gyda Pys Plîs: 50% o’r farchnad siopau groseriaid wedi ymrwymo i’r rhaglen

·         1.2% o wariant hysbysebu ar lysiau

·         Am bob £1 a gaiff ei gwario ar lysiau, caiff £17.60 ei wario ar fwyd cyflym

·          ST  - mae angen datblygu sgiliau coginio o fewn y cwricwlwm ysgolion fel nad oes dibyniaeth ar fwydydd pecyn

·          KP  - Rhaglen gyfoethogi yn ystod gwyliau ysgol – wedi’i hamlygu gan Estyn fel arfer da

·         MM  - prosiect wedi’i gyllido ag arian grant a wasanaethodd 50 o bobl dros 6 mis ond nid oedd yr yn ohonynt wedi cael ei atgyfeirio gan y meddyg teulu – cawsant eu recriwtio gan y prosiect ei hun

·         Sut ydyn ni'n sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd pobl sy'n cysylltu â meddygon teulu ynghylch gwasanaethau cymunedol y gallant eu defnyddio?

·          KP - model presgripsiynu cymdeithasol – cynllun peilot meddygfa Lansdowne fel enghraifft

·          LW  - Sensitifrwydd meddygon teulu sy'n codi’r cwestiwn ynglŷn â phwysau

·          NA  - nid oes unrhyw wlad yn y byd wedi datrys y broblem – mae’r Alban yn uchelgeisiol ond nid yw’r wlad wedi cyrraedd ei dau darged

·         Mae’r duedd o ran gordewdra ymhlith plant yn symud yn y cyfeiriad anghywir

·         Mae llawer o bethau bach da - mae angen eu cydgysylltu fel un peth mawr sy'n rhoi cymorth i newid ymddygiad

·         Fodd bynnag, ni fydd yr un math o ymyriad yn addas i bawb – mae’r mater yn amlweddog

·         Japan – y nifer isaf o achosion o ordewdra - mae ymddygiad yn wahanol - ac mae yna raglen ar gyfer oedolion lle mae'r cyflogwr yn gyfrifol ac yn cael dirwy os yw gweithwyr yn ordew!

·          KP  - cyfle i ystyried bwyd fel nwydd cyhoeddus – e.e. ffermwr yn cael tâl am gynnal a chadw gwrychoedd a chyrsiau dŵr

·          HJ  - mae'n rhaid bod awydd i newid

·          NF  - 10 cam i bwysau iach

·         Camgymhariad mawr rhwng rhieni sy’n meddwl bod problem gordewdra, ond nad ydynt yn ei gydnabod yn eu teuluoedd eu hunain.

·         Felly mae angen Ymgyrch a phecyn cymorth

·         Mae mor anodd colli pwysau - mae angen ei atal yn y lle cyntaf – o oedran ifanc

·         LW  - Clystyrau Meddygon Teulu ar gyfer Bwyd Doeth am Byth - ataliol a rhagweithiol

·         Mae angen i feddygon teulu wybod ble i atgyfeirio pobl - dim pwynt mewn cael sgwrs fel arall

 

4)      Agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf

·         Awgrymwyd y gallai cyfarfod yn y dyfodol ganolbwyntio ar gynhyrchu a dosbarthu bwyd.

·          Yn hytrach na thymor yr Hydref, awgrymodd KP yr 11eg o Orffennaf, ond byddai hyn yn cyd-fynd â dyddiad lansio fersiwn ddiwygiedig o Strategaeth Bwyd a Diod Cymru nad yw’n hysbys eto. Felly, yn ddibynnol ar gael diweddariad gan KP

Mae'r Cynulliad yn ailgynnull ar 17 Medi